Search results

25 - 36 of 94 for "Meurig"

25 - 36 of 94 for "Meurig"

  • EVANS, MORGAN (Cynllo Maesyfed, Cynllo Maelienydd; 1777? - 1843), offeiriad a phrydydd Ganwyd ym mhlwyf Llanrhystyd, Sir Aberteifi, o bosibl yn Rhyd-las, yn fab i David a Mary Evans (?). Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig, a bu'n gurad Llanddeiniol yn yr un sir o 23 Medi 1804 hyd 22 Medi 1805 pan gafodd ficeriaeth Breideth a Chaslai yn Sir Benfro. Ar 4 Awst 1807 derbyniodd ficeriaeth Llangunllo, sir Faesyfed, ac o 15 Mehefin 1825 ymlaen daliai fywiolaethau Llanddewi'r Cwm a
  • FITZOSBERN, WILLIAM (d. 1071), iarll Henffordd, arglwydd Breteuil yn Normandy Mercia yn 1067 a pharhau yn y cyswllt hwnnw nes i wŷr Mercia ymostwng yn derfynol yn 1070. Gorchfygodd Fitzosbern Faredudd a Rhys ab Owain, Deheubarth, a Chadwgan ap Meurig, Morgannwg (c. 1070), adeiladodd gestyll yn Wigmore, Clifford, Ewias Harold, Trefynwy, a Chepstow, a gorchfygodd Gwent. Ystyrid yn Lloegr ei fod yn ŵr gerwin, eithr yr oedd yn gymodlawn yn ei ymwneud â Chymry Gwent, gan adael i
  • GRIFFITH, JOHN (1818? - 1885), clerigwr Ganwyd (yn 1819 yn ôl Yr Haul, 1885) ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi, mab Thomas Griffith. Cafodd ei addysg yn ysgol Ystrad Meurig, ysgol ramadeg Abertawe, a Choleg Crist, Caergrawnt (B.A. 1841, M.A. 1844). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1842, yn offeiriad yn 1843; bu'n gurad yn Astbury, gerllaw Congleton, swydd Gaer, 1842-4, a bu'n athro a chaplan teulu yng nghartref Syr Stephen Glynne
  • GWGON ap MEURIG (d. 871), brenin Ceredigion, a'r olaf o linach Ceredig
  • HAVARD, WILLIAM THOMAS (1889 - 1956), esgob , Coleg Llanymddyfri, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg S. Ioan, Ystrad Meurig. Cymerodd ran flaenllaw ym mudiad addysg grefyddol yn yr ysgolion. Gweithiodd i geisio gwell cydweithrediad rhwng yr Eglwys yng Nghymru a'r Anghydffurfwyr. Magwyd ef yn Annibynnwr a bu'n aelod yng nghapel yr Annibynwyr yn Baker Street, Aberystwyth, o 1908 i 1911, ac wedi graddio yng Ngholeg y Brifysgol yr ymunodd â'r
  • HUGHES, DAVID (1785 - 1850), clerigwr ac awdur Mab Daniel Hughes, Trefilan, Sir Aberteifi. Addysgwyd yn ysgol Ystrad Meurig a Choleg Iesu, Rhydychen, a graddio yn B.A. yn 1806 ac yn M.A. yn 1809. Yn 1805 dechreuodd weithio i Wasg Prifysgol Rhydychen fel un o'r rhai a oedd yn cywiro argraffiad diwygiedig y Beibl Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 1809; yn 1806 etholwyd ef yn ysgolor o Goleg Iesu. Urddwyd ef yn esgobaeth Rhydychen (?) ac yn Rhagfyr, 1808
  • HUGHES, JOHN (1787 - 1860), archddiacon Ceredigion, clerigwr efengylaidd, a llenor Ganwyd yn Llwynglas, Llanfihangel Geneu'r Glyn. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig yn nyddiau John Williams, mab ' Yr Hen Syr.' Wedi hynny, bu'n athro cynorthwyol yn ysgol Putney, ger Llundain, am 18 mis. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan esgob Llanelwy yn 1811. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llandrillo-yn-Rhos, ger Colwyn. Bu yno chwe mlynedd a'r wlad ogylch yn tyrru i'w wrando. Derbyniodd
  • HUGHES, JOSEPH (Carn Ingli; 1803 - 1863), clerigwr a bardd eisteddfodol Ganwyd 'Sul y Blodau,' 1803, yn y Parcau, Trefdraeth, Sir Benfro, mab Dafydd a Hannah Hughes. Addysgwyd ef yn ysgolion gramadeg Caerfyrddin, Aberteifi, Ystrad Meurig (1824), a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1827). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1828 gan esgob Tyddewi (Jenkinson) ac yn offeiriad yn 1829. Ei unig guradiaeth yng Nghymru oedd Llanfihangel Penbedw, Penfro. Penodwyd ef yn
  • HUW ap RHYS WYN (fl. c. 1550), bardd Aelod o deulu bonheddig Mysoglen, Llangeinwen, sir Fôn; gŵr Catrin ferch Lewys ab Owain ap Meurig o'r Frondeg, Llangaffo. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywydd i ofyn cwch pysgota gan Thomas Glyn, Glynllifon, cywydd i henaint, a chywydd mwy anghyffredin ei destun, sef marwnad i'w hoff gi a elwid Bwrdi. Ceir hefyd ymryson rhyngddo â Rhydderch ap Rhisiart. Gwelir ei
  • HYWEL ap IEUAF (d. 985), brenin Gwynedd mab Ieuaf ap Idwal Foel. Yn 979 dialodd ar elynion ei dad trwy garcharu ei ewythr, Iago ap Idwal, a dechrau teyrnasu ei hunan yng Ngwynedd. Dilynwyd ef gan ei frawd, Cadwallon (bu farw 986), gŵr na bu iddo yntau ychwaith aer uniongyrchol. Dygwyd y llinach ymlaen gan etifeddion ei ewythr, Meurig ap Idwal Foel.
  • IAGO ab IDWAL ap MEURIG (d. 1039), brenin Gwynedd
  • IDWAL ap MEURIG (d. 996) mab Meurig ab Idwal Foel. Bu farw mewn alltudiaeth yn ystod cyfnod teyrnasiad Maredudd ab Owain dros Wynedd. Daeth ei fab Iago yn frenin ar Gwynedd yn nes ymlaen.