Search results

241 - 252 of 566 for "Dafydd"

241 - 252 of 566 for "Dafydd"

  • HUGHES, JOHN (Glanystwyth; 1842 - 1902), gweinidog Wesleaidd cymanfa Wesleaidd Gymreig, 1899, a rhannu talaith y Gogledd, 1902. Ef oedd yr ail orau ar y bryddest yn eisteddfod genedlaethol Aberystwyth, pan oedd yn efrydydd yn Jasper House, yr ail orau yn eisteddfod genedlaethol Llundain, 1887 - y gorau yn ôl 'Dafydd Morgannwg,' yr ail orau yn eisteddfod genedlaethol Llanelli, 1895. Yr oedd yn feirniad y bryddest yn eisteddfod Lerpwl, 1900. Ef oedd cadeirydd
  • HUGHES, JOHN (1850 - 1932), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, a bardd Ganwyd yn Abertawe ym Mai 1850, mab Dafydd ac Elizabeth Hughes. Symudodd ei rieni i Gwmafan, Morgannwg, ac yno y codwyd ef. Dechreuodd bregethu yn 1869, ac addysgwyd ef yn Nhrefeca a Phrifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn M.A. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1877, a bu'n weinidog yn Nowlais, Machynlleth, a Fitzclarence Road, Lerpwl. Bu'n llywydd cymanfa gyffredinol ei gyfundeb yn 1911
  • HUGHES, JOSEPH (Carn Ingli; 1803 - 1863), clerigwr a bardd eisteddfodol Ganwyd 'Sul y Blodau,' 1803, yn y Parcau, Trefdraeth, Sir Benfro, mab Dafydd a Hannah Hughes. Addysgwyd ef yn ysgolion gramadeg Caerfyrddin, Aberteifi, Ystrad Meurig (1824), a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1827). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1828 gan esgob Tyddewi (Jenkinson) ac yn offeiriad yn 1829. Ei unig guradiaeth yng Nghymru oedd Llanfihangel Penbedw, Penfro. Penodwyd ef yn
  • HUGHES, RICHARD (c. 1565 - 1619) Cefn Llanfair,, bardd Mab Huw ap Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair. (Nid yr un oedd Huw Llŷn â Huw ap Rhisiart, er bod yr olaf hefyd yn fardd.) Aeth i Lundain, ac ymunodd â'r fyddin ac yn ôl un englyn o'i waith gellir casglu iddo fod yn ymosodiad llwyddiannus y Prydeinwyr yn 1596 ar borthladd Cadiz yn Sbaen, yn un o 150 o Gymry Sir Gaernarfon yn yr ymgyrch hwnnw. Gwyddom hefyd iddo fod yn ' pedisequus ' y frenhines
  • HUGHES, ROBERT (1811 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd ym Modgared, Llanwnda, Arfon, 25 Mawrth 1811, yn fab i dyddynnwr a newidiodd ei dyddyn deirgwaith neu bedair ym more oes ei fab, ond a gartrefodd o'r diwedd ym Moelfre Fawr, Llanaelhaearn, lle y bu farw yn 95 oed. Ychydig iawn o ysgol (bu am dymor gyda 'Dafydd Ddu Eryri') a gafodd y bachgen, ond yr oedd yn gerfiwr medrus â'r gyllell dwca. Yn 1830, aeth gyda gyr o wartheg i Lundain, gan
  • HUGHES, ROBERT GWILYM (1910 - 1997), bardd a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Llafur yng Ngorllewin Fflint. Symudodd o Fôn yn 1954 i ofalu am gapel Bethesda, yr Wyddgrug yn Henaduriaeth Sir y Fflint. Daeth yn aelod o dîm ymryson 'Pawb yn ei Dro' BBC gyda Ronald Griffith a'r Prifardd Dafydd Owen, ac yn rhan o'r ymgyrchu am Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint. Derbyniodd alwad yn 1961 yn olynydd i'r Parchedig Morgan Griffith yng nghapel Penmount, Pwllheli, ac yno bu hyd ei ymddeoliad
  • HUW ap DAFYDD (fl. c. 1550-1628), bardd Gan mai boneddigion Gogledd Cymru oedd gwrthrychau ei farddoniaeth mawl a marwnad, gellir tybio mai brodor o'r Gogledd oedd yntau (er bod Cambrian Biography, Cymru (O.J.), Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen, a Blackwell yn rhoi ei gartref yn Euas, sir Henffordd). Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, yn cynnwys cywyddau i Hywel ap Sion ap Dafydd ab Ithel
  • HUW ap DAFYDD ap LLYWELYN ap MADOG (fl. c. 1526-80?), bardd
  • HUW ap RHISIART ap DAFYDD (fl. ail hanner y 16eg ganrif) Cefn Llanfair, bardd
  • HUW ap RHYS WYN (fl. c. 1550), bardd waith yn y llawysgrifau canlynol: Bodewryd MS 2B, Glyn Davies MS. 1, Llanstephan MS 118, Llanstephan MS 125, NLW MS 3056D, NLW MS 832E, NLW MS 9166B. Ceir cywydd moliant iddo gan Dafydd Alaw yn Peniarth MS 63 (132).
  • HUW CEIRIOG (fl. c. 1560-1600), bardd llawysgrifau canlynol enghreifftiau o'i farddoniaeth: B.M. Add. MS. 14894, Cardiff MS. 63, Llanstephan MS 118, NLW MS 3048D, NLW MS 6496C, NLW MS 8330B, Peniarth MS 84 (Llyfr Dafydd Cayo), Peniarth MS 104. Enw Hywel Ceiriog a geir yn rhestr rhai llawysgrifau o raddedigion Caerwys yn 1568 (e.e. Peniarth MS 121 (215), Peniarth MS 144 (268)); ceir hefyd ymryson a fu rhwng Hywel Ceiriog, Wiliam Llŷn, Ieuan Tew
  • HUW DAFI (fl. 15fed-16eg ganrif), bardd Ceir yr enw 'Huw Dafi,' 'Huw Dafi o dir Llŷn,' a 'Huw Dafi o Wynedd' wrth farddoniaeth mewn llawysgrifau. Ni wyddys dim am y bardd - neu'r beirdd - ac nid yw'n glir ai yr un ydynt â'r Huw ap Dafydd y ceir llawer o'i waith yn y llawysgrifau.