Search results

109 - 120 of 310 for "Dewi"

109 - 120 of 310 for "Dewi"

  • EVANS, WILLIAM (1823 - 1900), ficer Rhymni a chanon mygedol yn eglwys gadeiriol Llandaf brodor o Langeler, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle'r oedd yn ysgolor blaenaf ('senior scholar') ac enillwr y wobr am yr Hebraeg a diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn 1848 i guradiaeth S. Mair, Aberteifi. Bu'n gurad Gelligaer, 1850-3, a Throed-yr-aur, 1854-6. Penodwyd ef yn ficer Rhymni yn 1856, ac arhosodd yno hyd ei farw. Yr oedd yn un o glerigwyr
  • EVANS, WILLIAM EILIR (Eilir; 1852 - 1910), clerigwr a bardd Ganwyd 26 Ebrill 1852 yn y Garreg Lwyd, Cenarth, Sir Gaerfyrddin. Annibynnwr ydoedd, ac aeth fel myfyriwr i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Troes at Eglwys Loegr yng Nghymru, a mynd yn 1878 i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Daliodd rai bywiolaethau, ond ni fu ryw lawer o lun arno fel offeiriad. Bu'n gurad yn Llanfaelog (Môn), Devizes, ac Aberdâr. Bu hefyd yn ysgolfeistr, am ychydig yn
  • FFINIAN (fl. 6ed ganrif), sant 'Fuchedd' er hynny mai yng Nghymru y derbyniodd Ffinian ei addysg a'i hyfforddiant. Pan yn 30 oed, daeth Ffinian drosodd i Hen Fynyw lle y cyfarfu â thri o saint Cymru, Dewi, Gildas, a Chathmael, a'r ddau gyntaf ohonynt yn ymryson â'i gilydd yr adeg honno am arweinyddiaeth Cymru. Torrodd Ffinian y ddadl yn ffafr Dewi Sant. Dywedir iddo aros gyda'r henuriaid Prydeinig am 30 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw
  • FISHER, JOHN (1862 - 1930), ysgolhaig Cymraeg Ganwyd 5 Ionawr 1862, mab hynaf Edward a Mary Fisher, Cilcoll, Llandebie. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Llandebie, Talybont (Pontardulais), ysgol Llanymddyfri, ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle y graddiodd yn B.A. yn 1884 a B.D. yn 1891, a lle y derbyniasai ysgoloriaeth a gwobrau. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1885, ac yn offeiriad yn 1886, a bu'n gurad ym Mhontbleiddyn
  • FLYNN, PATRICIA MAUD (Patti) (1937 - 2020), cerddor, awdur, ymgyrchydd yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant ac yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â lleoliadau eraill yn Ne Cymru. Roedd Patti a'i chyd-gerddorion jazz hefyd eisiau ail-gynnau y diddordeb mewn jazz yn Nhre-biwt, i gadw'r traddodiad yn fyw ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gyda'r dyhead hwn mewn golwg yn 2009 fe gyd-sefydlodd hi Gŵyl Jazz Tre-biwt gyda Humie Webbe, a Chanolfan
  • GILDAS (fl. 6ed ganrif), mynach neu sant yw i Gildas fod yn ddisgybl i Elltud Sant (gweler ' Buchedd Paul,' a ysgrifennwyd yn 884, a ddywed fod Paul, Dewi, Samson, a Gildas 'awdur yr Ormesta Britanniae,' yn gyd-ddisgyblion, Rev. Celt., v, 421), ac iddo groesi i Lydaw a sefydlu mynachlog Ruys yn Vannes. Tystir hefyd i fri Gildas ymhlith saint Iwerddon, gan y cyfeiriad ato gan yr abad Columban (Columbanus) mewn llythyr at y pab Gregor tua
  • GRIFFITH, DAVID (1726 - 1816), clerigwr ac ysgolfeistr Fel athro'r ysgol ramadeg dan adain Coleg Crist, Aberhonddu, bu'n athro ar ddyrnaid o wŷr pur nodedig - Thomas Coke, Edward Davies ('Y Celtic Ddafis'), Theophilus Jones, John Jones, Llanymddyfri (awdur geiriadur Groeg), a John Hughes, Aberhonddu - bob un ohonynt yn y Geiriadur hwn. Mab Roger a Gwenllian Griffiths ydoedd, a bedyddiwyd ef yn eglwys Dewi, Llanfaes, Aberhonddu, 5 Mehefin 1726. Nid yw
  • GRIFFITHS, JOHN (1820 - 1897), clerigwr ac eisteddfodwr Ganwyd 11 Mai 1820 yn Parc-y-neuadd, ger Aberaeron, Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg gan athro preifat ac yn ysgol ramadeg Aberteifi, ac yna dilyn cwrs yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Gan ei fod yn rhy ieuanc i dderbyn urddau, dychwelodd i'w hen ysgol am bedair blynedd yn brifathro, a gwnaeth waith da yno. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1843 a'i drwyddedu i guradiaeth Aberystruth, sir
  • GRUFFUDD ap NICOLAS (fl. 1415 - 1460), uchelwr, a phrif ffigur llywodraeth leol deheubarth tywysogaeth Cymru yng nghanol y 15fed ganrif deulu'r dug Humphrey. Fe' i rhyddhawyd yn fuan a chadwodd ymddiriedaeth y llys, gan barhau i weithredu dros ustus De Cymru, ac weithiau dros y siambrlen. Rhoes John Delabere, esgob Dewi, 1447 - c. 1460, ofal ei esgobaeth arno, a chafodd Richard, dug Efrog, hawl i roddi iddo ef a'r esgob gastell, maenor, a thref Arberth, 13 Mai 1449. Gosodwyd ef a'i fab Thomas ar gomisiwn amddiffyn porthladdoedd y de
  • GRUFFUDD, IFAN (c. 1655 - c. 1734), prydydd Grefydd (1717). Y mae'n awdur englynion a charol haf. Ceir hanes amdano yn ymweled ag eisteddfod Machynlleth 1702 ac yn cael ei ddychanu yno gan Siôn Rhydderch. Canwyd molawd iddo gan ' Iaco ab Dewi ' a marwnadau gan Siencyn Thomas, y Cwm Du, ac Alban Thomas, Blaen Porth.
  • GWYNFARDD BRYCHEINIOG, un o'r Gogynfeirdd Ni chadwyd dim o'i waith oddieithr dwy gerdd, sef ' Canu y Dewi ' ac ' Awdyl yr Arglwydd Rys ': gweler Hendregadredd MS., 197-207. Awgryma ei enw mai gwr o Frycheiniog ydoedd; yn ei ' Canu y Dewi,' cyfeiria at 'blwyf llann dewi lle a volwyf' ac fe all ei fod yn cyfeirio at un o lannau Dewi ym Mrycheiniog. Wrth ystyried ei gerdd i Ddewi Sant, dylid cofio fod Gerallt Gymro wedi ei ethol yn
  • HALL, AUGUSTA (Arglwyddes Llanofer), (Gwenynen Gwent; 1802 - 1896), noddwraig diwylliant a dyfeisydd y wisg genedlaethol Gymreig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac a briodolir iddi gan rai, ffurfient y sylfaen i'r wisg genedlaethol Gymreig i ferched a menywod a welir mewn dathliadau cenedlaethol megis Dydd Gŵyl Dewi. Gwisgai Arglwyddes Llanofer y wisg Gymreig hon bob dydd Sul ac ar achlysuron cyhoeddus, roedd ei gweision yn gorfod ei gwisgo, a cheisiodd ei hybu ymhlith bonedd ei chylch, yn aflwyddiannus gan mwyaf. Ei nawdd i