Search results

1 - 12 of 21 for "Elen"

1 - 12 of 21 for "Elen"

  • ANWYL, JOHN BODVAN (Bodfan; 1875 - 1949), gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur Ganwyd 27 Mehefin 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Caerwys, Sir y Fflint, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur
  • BRAZELL, DAVID (1875 - 1959), datganwr iddo ei gân adnabyddus ' Angladd y Marchog ', yn ogystal â'i drefniant o ' Y bwthyn bach to gwellt ' (' Crych Elen ', Thomas Lloyd. Yr oedd yn berchen llais bariton swynol a chyfoethog, a bob amser o dan lywodraeth gadarn, a chan fod ei arddull ac ansawdd ei lais yn ddelfrydol i bwrpas recordio y mae'n un o'r rhai cyntaf y gwelir ei enw yng nghatalogau'r cwmnïau gramoffôn. Dechreuodd recordio ar
  • CRYCH ELEN - see LLOYD, THOMAS
  • DAFYDD LLWYD ap Dafydd ab Einion ap Hywel (d. cyn 1469), gŵr o fri yng Nghydewain yng nghanol y 15fed ganrif, a noddwr hael i'r beirdd Gruffudd ab Einion, arglwydd y Tywyn. Bu iddynt ddau fab a merch - Rhys, Robert, ac Elen. RHYS AP DAFYDD LLWYD (bu farw 1469) Yr oedd yn ysgwïer i Edward IV, ac yn ystiward iddo yng Nghydewain, Ceri, Cyfeiliog, ac Arwystli. Bu hefyd yn llywodraethwr castell Trefaldwyn. Collwyd ef ym mrwydr Danesmore neu Fanbri, 1469. Canodd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd gywydd sy'n awgrymu bod ansicrwydd am ei
  • HUGHES, DEWI ARWEL (1947 - 2017), diwinydd ac arweinydd Cristnogol Ganwyd Dewi Arwel Hughes ar 1 Ionawr 1947 yn Bugeilfod, Llangwm, Sir Ddinbych, yr ieuengaf o bedwar o blant Gruffudd Evans Hughes (1912-1975), gwerthwr nwyddau amaethyddol, a'i wraig Annie (g. Edwards, 1908-1957), gwniadwraig. Roedd ganddo dair chwaer, Elen Haf, Lona Wyn a Gwenan Arwel. Flwyddyn wedi ei eni, symudodd y teulu i Garth Isa, Frongoch ger y Bala. Bu farw ei fam yn 1957, pan oedd Dewi
  • HYWEL DDA (d. 950), brenin a deddfwr i'w ddau fab, Hywel a Clydog, ac wedi marw Clydog yn y flwyddyn 920 cafodd Hywel feddiant llwyr arni. Elen ferch Llywarch ap Hyfaidd o Ddyfed oedd ei wraig, a dug hi Ddyfed yn gynhysgaeth iddo, gan mai Llywarch, yn ôl pob tebyg, oedd yr olaf o dywysogion Dyfed. Tywysog Gwynedd oedd Idwal Foel, ac y mae'n debyg bod Powys hithau yn ei feddiant. Lladdwyd Idwal gan y Saeson mewn brwydr yn y flwyddyn 942
  • JONES, ELEN ROGER (1908 - 1999), actores ac athrawes Ganwyd Elen Roger Jones ar 27 Awst 1908 ym Marian-Glas, Ynys Môn, yn ferch i William Griffith (1873-1935), Ysgrifennydd Pwyllgor Addysg Môn, a'i wraig Mary (ganwyd Williams, bu farw 1961). Plentyn cyntaf William oedd Elen a'r ail blentyn i Mary, wedi iddi gael mab gyda'i gŵr blaenorol, capten a fu farw mewn storm wrth deithio ar long ychydig fisoedd cyn genedigaeth eu plentyn, a gafodd ei enwi'n
  • JONES, JOHN (Tegid, Ioan Tegid; 1792 - 1852), clerigwr a llenor Ganwyd yn y Bala 10 Rhagfyr 1792, yn ail fab i Henry a Catherine Jones; yn ôl hunangofiant Elizabeth Davis, yr oedd gan y fam fasnach bur helaeth mewn dillad merched, ac awgryma gyrfa hir 'Tegid' mewn ysgolion ei bod hi'n weddol dda ar y teulu. Enwa 'Tegid' frawd, Dafydd, a oedd yn fancer, a dwy chwaer, Gwen (a fu farw'n ifanc) ac Elen. Bu mewn 'amryw ysgolion' yn y Bala; yn 12 oed, aeth i'r
  • JONES, JOHN (1796 - 1857), pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 1 Mawrth 1796, yn Nhanycastell, Dolwyddelan, yn fab i John ac Elen Jones, a brawd David Jones, Treborth. Collodd ei dad pan yn 12 oed. Dylanwadodd diwygiad Beddgelert (1819) arno ac ymunodd â chrefyddwyr yn Llangernyw; bu'n gweithio ar y ffordd fawr rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen ac wedyn mewn chwarel yn Nhrefriw. Dechreuodd bregethu yn 1821; ni bu mewn ysgol o gwbl, eithr cafodd ychydig
  • JONES, JOHN WILLIAM (1883 - 1954), llenor, casglwr llythyrau ac amryfal bapurau, cyhoeddwr, hynafiaethydd a bardd gwlad ar fedd Robert Roberts, 'Y Sgolor Mawr' ym mynwent Llangernyw. Bu'n gyfrifol am y gofeb ger cartref Thomas Lloyd ('Crych Elen'), yn Nolwyddelan - daeth yr arian at hyn oddi wrth wraig o'r Amerig. Gofalodd am godi maen coffa i Edward Stephen ('Tanymarian') yn Rhyd Sarn, Dyffryn Maentwrog, a threfnodd gyfarfod coffa i ddadorchuddio cofeb i Forgan Llwyd yng Nghynfal Fawr. Yn ddiweddarach casglodd a
  • LANGFORD family Drefalun, . Bu ef farw 12 Gorffennaf 1466, ddwy flynedd ar ôl ei wraig Alis, ferch ac aeres Hywel ap Gruffudd ap Morgan, yr Hôb, gweddw John ap Richard Wettenhale. Eu hetifedd oedd yr EDWARD LANGFORD a enwyd eisoes. Gwnaethpwyd ef yn siedwr ac atwrnai arglwyddiaeth Dinbych am ei wasanaeth personol i Harri VI yn erbyn Richard, dug Iorc, 4 Chwefror 1460. Priododd ef Elen (bu farw 1465), ferch John Dutton, a bu
  • LLOYD, THOMAS (Crych Elen; 1841 - 1909), cerddor