Search results

1 - 12 of 14 for "Cynwyl"

1 - 12 of 14 for "Cynwyl"

  • DAVIES, DANIEL (1756 - 1837) Felinfoel Ganwyd 24 Ebrill 1756 yn Bwlchmelyn, Cenarth. Wedi gwasnaethu ar ffermydd yn y cylch aeth i Cynwyl i gynorthwyo Hywel Hywels, barcer, am gyfnod. Pan yn 15 oed dysgodd wau, a bu'n, gweithio mewn ffatrïoedd yng Nghynwyl, Ffynnonhenri (lle y bedyddiwyd ef), ac Eglwyswrw. Dechreuodd bregethu yn 1780 yn Ffynnonhenri, priododd yn 1782, a chartrefodd yn Dolwen, Cynwyl. Urddwyd ef a Nathaniel Williams ym
  • DAVIES, JOHN (1750 - 1821), offeiriad Methodistaidd Griffith Williams, tt. 457-61) yr oedd yn gurad Cynwyl yn 1774.] Ymunodd wedyn â'r Methodistiaid a bu'n pregethu yn eu plith dros Gymru oll. Codwyd capel Bancyfelin iddo yn 1788 a bu'n gweinyddu'r Cymun yno hyd 1811. Dywedir iddo gefnu ar y Methodistiaid y pryd hynny, ond tystiolaeth yr arysgrif ar ei feddfaen yn Llanddowror yw ei fod yn 'Minister of the Gospel at Bank-y-felin upwards of 36 years
  • DUNAWD (fl. 6ed ganrif), sant mab i Babo Post Prydain o linach Coel Godebog. Dywed traddodiad Cymreig iddo fod yn dywysog yng ngogledd Prydain, ac enwir ef yn y Trioedd fel un o 'dri post câd' ei wlad. Ei wraig oedd Dwywai, ferch Lleenog. Bu raid iddo ffoi o'i ranbarth ei hun i Ogledd Cymru, lle cafodd nodded gan Gyngen, fab Cadell Deyrnllwg, tywysog Powys. Dywedir iddo, gyda chymorth ei dri mab Deiniol, Cynwyl, a Gwarthan
  • EVANS, DAVID (1778 - 1866), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Na chymysger ef â'r David Evans arall a fu'n weinidog yn yr un lle (ac yn Heol-y-prior, Caerfyrddin) o 1765 hyd 1793. Ganwyd Dafydd Evans yn Nant-y-fen, Cynwyl Elfed, yn fab i Stephen a Jane Evans, a bu yn ysgol Arthur Evans yng Nghynwyl. Dechreuodd bregethu tua 1808, ac yn wythnos y Pasg 1811 urddwyd ef yn gyd-weinidog yn Ffynnon-henri. Yn 1846, fel protest yn erbyn dyfarniad cyfreithiol a oedd
  • EVANS, DAVID PUGH (1866 - 1897), cerddor Ganwyd mewn ffermdy o'r enw Llainwen, ger Ffynnon Henri, plwyf Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, mab Daniel ac Elizabeth Pugh Evans. Cafodd ei fagu mewn teulu cerddorol. Yn fachgen aeth i wasnaethu mewn siop ddillad yn Llanelli, ac ymunodd â chôr capel Seion o dan arweiniad R. C. Jenkins. Dysgodd sol-ffa yn nosbarth D. W. Lewis, Brynaman, a chynghanedd yn nosbarth Dr. Joseph Parry a gynhelid gan y
  • HOWELL, JAMES (1594? - 1666), awdur Ail fab Thomas Howell, curad Llangammarch, sir Frycheiniog - wedi hynny'n rheithor Cynwyl ac Abernant, Sir Gaerfyrddin. O ysgol rydd Henffordd, aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1610, 'yn 16 oed' a graddiodd yn 1613. Aeth i fyd busnes, ac ar ôl 1616 bu'n teithio ar gyfandir Ewrop am rai blynyddoedd. Oherwydd iddo ddysgu ieithoedd tramor yn ystod y blynyddoedd hyn cafodd ei anfon o 1622 ymlaen ar
  • JOB, JOHN THOMAS (1867 - 1938), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, emynydd, a bardd Ganwyd 21 Mai 1867 ym mhlwyf Llandybie, Sir Gaerfyrddin, yr ieuengaf o bump o blant i John a Mary Job, ac yn nai i Thomas Job, Cynwyl. Yn 1894 priododd Etta Davies, Zenobia House, Ceinewydd; ganwyd tri o blant ond buont farw yn ieuainc. Bu farw ei briod yn 1901. Yn 1915 priododd Catherine Jones Shaw, Ty'ncelyn, Bryneglwys, sir Ddinbych; ganwyd mab a merch o'r briodas hon. Derbyniodd ei addysg yn
  • LEWIS, DAVID (1760 - 1850), clerigwr Abernant, Sir Gaerfyrddin, ac yn gurad parhaus Cynwyl Elfed, Mawrth 1787. Bu yno hyd ei farw, 28 Gorffennaf 1850, a chladdwyd ef yn Abernant. Daliodd hefyd reithoraeth Garthbeibio, Sir Drefaldwyn, o 1794 hyd 1850. Yr oedd Lewis yn ustus heddwch dros Sir Gaerfyrddin, ac yn archwiliwr i'r gymdeithas a sefydlwyd gan yr esgob Thomas Burgess er cynorthwyo darpar-glerigwyr. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr
  • LEWIS, THOMAS (1868 - 1953), Prifathro'r Coleg Coffa, Aberhonddu arwain mewn cymanfaoedd a beirniadu mewn eisteddfodau lleol. Etifeddodd hefyd nerth ac urddas corfforol a'i galluogodd i ragori ar lawer mewn campau a phêl-droed. Magwyd y plant yn niwylliant y capel ac ni chollodd Thomas Lewis ei barch at Geiriadur Charles. Tyddyn Pen-lan ym mhlwyf Cynwyl Elfed oedd cartref ei febyd. Cynhaliai ei dad gwrdd gweddi wythnosol i lanciau mewn bwthyn o'r enw Cwmcafit
  • LLOYD, WILLIAM (1741 - 1808), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn 1741, mab i Dafydd Llwyd, Blaen-clawdd, Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin. Ac yntau'n 18 oed gwrandawodd bregeth gan Peter Williams a gwnaed argraff ddofn ar ei galon, ond ymhen y flwyddyn, wrth wrando ar Evan Jones, Lledrod, y cafodd lwyr argyhoeddiad. Ymunodd ag eglwys Annibynnol Crug-y-bar, ond yn 1760 ymneilltuodd nifer o'r aelodau i ailgychwyn seiat Fethodistaidd yng Nghaeo. Dechreuodd
  • OWEN, JAMES (1654 - 1706), gweinidog ac athro Ymneilltuol, a diwinydd Ganwyd 1 Tachwedd 1654 yn y Bryn (Brynmeini), Abernant, Caerfyrddin, yn ail fab i John Owen. Yr oedd ei fam (na wyddys mo'i henw) yn nith i'r esgob Thomas Howell ac i'r llythyrwr James Howell; ei thref-tad hi oedd y Bryn, a berthynai i'w thaid Thomas Howell, ficer Cynwyl Elfed ac Abernant a chyn hynny curad Llangamarch - llithrodd Ant. Wood gan ddweud mai yn y Bryn, Abernant, y ganed James Howell
  • PRYTHERCH, WILLIAM (1804 - 1888), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 25 Ebrill 1804 yn Nhŷ'n-yr-heol, plwyf Cynwyl Gaeo, yn fab i Thomas William Rytherch. Bu dan addysg yn nhref Caerfyrddin, a chynorthwyai David Charles yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Dechreuodd bregethu yn eglwys Caeo yn 1825. Yn 1831 priododd Joyce, merch Thomas Evans Pumsaint. Wedi gadael ardal Caeo preswyliodd mewn amryw fannau yn Sir Gaerfyrddin - Llanegwad, Llanfynydd, Betws, Nantgaredig