Search results

25 - 36 of 4738 for "niclas y glais"

25 - 36 of 4738 for "niclas y glais"

  • BERGAM, Y (fl. 14eg ganrif), bardd, daroganwr Fe'i gelwir yn y llawysgrifau 'Y Bergam o Faelor ' ac mewn stent a wnaed i'r Tywysog Du yn 1352 cyfeirir at 'Gafael mab Bergam' wrth sôn am Bennant yn Eifionydd. Yr oedd ei ddaroganau'n un o ffynonellau'r cywyddau brud. Gweler Enid Griffiths, Early vaticination in Welsh (1937).
  • ELIDIR SAIS (fl. niwedd y 12fed ganrif a hanner cyntaf y 13eg.), bardd Canodd englynion marwnad i Rodri ab Owain Gwynedd (bu farw 1195) ac i Ednyfed Fychan. Nid Sais mohono, oblegid dywed Gwilym Ddu (The Myvyrian Archaiology of Wales, 277B) fod Elidir yn 'ŵr o ddoethion Môn, mynwes eigion,' a rhydd ei waith gyda chynnyrch prifeirdd eraill yn 'iawn ganon,' neu'n safon i feirdd. Canu crefyddol yw'r rhan fwyaf o'i gynnyrch, ac fe'i ceir yng nghasgliad y Dr. Henry Lewis
  • HOWEL ap GRUFFYDD (fl. yn ddiweddar yn y 13eg ganrif) ei ddisgynyddion yn byw hyd ddyddiau Syr Rhys ap Thomas. Yn 1279 bu peth o'r tir a gymerwyd oddi arno gan Rhys ap Maredudd (cynrychiolydd teulu 'brenhinol' Dinefwr ar y pryd) yn destun ymholiad y gorchmynnodd y brenin Edward I ei gynnal. Y mae'r ffaith i'r brenin wneuthur hyn a bod Howel cyn hyn wedi cael rhoddi iddo bensiwn o £20 y flwyddyn dros ei oes yn profi bod y cydymdeimlad â llinell yr
  • PARRY, JOHN (Y telynor dall; 1710? - 1782) Ganwyd ef ym Mryn Cynan yn agos i Nefyn, Sir Gaernarfon, c. 1710. Dywed 'Carnhuanawc' mai Robert Parry, Llanllyfni, a ddysgodd iddo'r gelfyddyd o ganu'r delyn, a dywed Edward Jones ('Bardd y Brenin') iddo gael gwersi gan Stephen Shon Jones o Benrhyndeudraeth. Daeth John Parry yn un o delynorion gorau Prydain a bu'n canu'r delyn ym mhrif gyngherddau'r deyrnas yn Llundain, Caergrawnt, Rhydychen, a
  • PEDROG (fl. 6ed ganrif), SANT Darganfuwyd y 'fuchedd' lawnaf o'r sant hwn yn ddiweddar yn Gotha, yn yr Almaen. Er mai yn Nyfnaint(Dumnonia) a Llydaw y gwnaeth Pedrog ei waith mwyaf, brodor oedd o Went. Yn ôl ' Buchedd Cadog Sant ' (rhagair) a'r achau sydd ar ddiwedd ei 'fuchedd' ei hun, un o feibion Glywys oedd Pedrog. Ond dywed ' Bonedd y Saint ' (Wade-Evans) mai mab Clement, tywysog o Gernyw, oedd ef. Yn ôl ystori ' Buchedd
  • ROBERTS family Mynydd-y-gof, DAVID ROBERTS (1788? - 1869), meddyg Meddygaeth Mab oedd i John a Catherine Roberts, Aberalaw, Llanfachraeth; ym mhlwyf Llanddeusant yr oedd gwreiddiau'r teulu. Prentisiwyd ef i feddyg yng Nghaergybi, ac wedi bwrw tymor gyda meddyg yn Llundain, dychwelodd i Fôn ac ymsefydlodd fel meddyg ac amaethwr ym Mynydd-y-gof. Priododd yn 1815 â Sarah Foulkes (1788 - 1879), ferch Thomas Foulkes o Fachynlleth
  • BIDWELL, MORUS, pregethwr Piwritanaidd, cyfnod y Weriniaeth Enwyd ef yn un o'r 25 profwyr o dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1649-52); erys profion cyfoes iddo dderbyn £138 am y gwaith hwn yn 1650 (a rhan o 1649), £75 am 1651, a dau daliad o £50 yn 1652; y mae prawf hefyd iddo ddangos cryn ddiddordeb yn yr ysgol Biwritanaidd a sefydlwyd yn Abertawe. Gan nad adnewyddwyd y Ddeddf honno yn 1653, penodwyd ef yn weinidog sefydlog ar gynulleidfa Eglwys
  • BONAPARTE, Y Tywysog LOUIS-LUCIEN (1813 - 1891) Mab i Lucien (a nai i Napoleon) Bonaparte. Ganwyd ar y 4 Ionawr 1813 yn Thorngrove, Worcestershire, Lloegr, ac yn Lloegr y bu hyd y flwyddyn 1848, pryd y dychwelodd i Ffrainc lle y gwnaed ef ar ôl y chwyldro yn ddirprwy dros Corsica (28 Tachwedd). Pan ddiddymwyd yr etholiad hwnnw, fe'i hetholwyd ym Mehefin 1849 yn ddirprwy dros Seine. Eisteddodd ar y ddeau yn y Gymanfa Ddeddfwriaethol ond ni
  • CYNGAR (fl. 6ed ganrif), sant Gŵyr efrydwyr bucheddau'r saint heddiw am ddwy fersiwn o 'fuchedd' Cyngar Sant. Darganfuwyd gopi anghyflawn o'r hynaf o'r ddwy, sef fersiwn a gyfansoddwyd mwy na thebyg yn y 12fed ganrif, yn Wells yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar. Ychwanegwyd y fersiwn arall, sydd yn llawnach ond yn ddiweddarach o ran amser, at argraffiad printiedig 1516 o ' Vitae SS. ' John o Teignmouth. Dywedir i Gyngar Sant
  • CYNIDR (fl. 6ed ganrif), sant Ychydig o hanes bywyd y sant hwn sydd ar gael. Dywed y ' De Situ Brecheniauc ' (Wade-Evans, Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, 313-5) a'r ' Cognacio Brychan ' (op. cit., 315-8) amdano mai mab oedd i Geingair, ferch Brychan, ond ni sonnir yno am enw ei dad. Ar y llaw arall, dengys y ' Generatio Sancti Egweni ' (op. cit., 319) mai mab oedd Cynidr i Wynllyw a Gwladys, ac felly yn frawd i
  • DUNAWD (fl. 6ed ganrif), sant mab i Babo Post Prydain o linach Coel Godebog. Dywed traddodiad Cymreig iddo fod yn dywysog yng ngogledd Prydain, ac enwir ef yn y Trioedd fel un o 'dri post câd' ei wlad. Ei wraig oedd Dwywai, ferch Lleenog. Bu raid iddo ffoi o'i ranbarth ei hun i Ogledd Cymru, lle cafodd nodded gan Gyngen, fab Cadell Deyrnllwg, tywysog Powys. Dywedir iddo, gyda chymorth ei dri mab Deiniol, Cynwyl, a Gwarthan
  • ELLI (fl. 6ed ganrif), sant Yr unig frynhonnell i draddodiad Elli yw 'Buchedd' Cadog a gyfansoddwyd tua diwedd yr 11eg ganrif. Pan oedd yn teithio mewn gwledydd tramor, dywedir i Gadog Sant lanio ar nifer o ynysoedd a elwid Ynysoedd Grimbul, ac i frenhines y diriogaeth honno ymbil arno ei rhyddhau hi o felltith ei amhlentyndod. Eiriolodd yntau ar ei rhan, ac ymhen amser ganwyd iddi fachgen, Elli, a ymddiriedwyd gan ei fam i