Search results

1 - 12 of 524 for "Hywel Dda"

1 - 12 of 524 for "Hywel Dda"

  • HYWEL DDA (d. 950), brenin a deddfwr Gelwid ef yn gyffredin yn ' Hywel Dda fab Cadell, tywysog Cymru oll,' ac yn Brut y Tywysogion gelwir ef yn 'ben a moliant yr holl Frytaniaid.' Ef oedd yr unig dywysog Cymreig a gyfenwid yn 'Dda.' Ganed ef tua diwedd y 9fed ganrif; ni wyddys ym mha le. Un o feibion Rhodri Mawr oedd Cadell, a rhan ddeheuol tywysogaeth ei dad a etifeddodd ef, sef Seisyllwg (Ceredigion ac Ystrad Tywi). Gadawodd hi
  • HYWEL ab EDWIN (d. 1044), brenin Deheubarth mab Edwin ab Einion a gor-wyr i Hywel Dda. Pan fu'r cipiwr Rhydderch ap Iestyn farw yn 1033, daeth Hywel a'i frawd Maredudd, fel etifeddion hynaf Hywel Dda, yn gydfrenhinoedd Deheubarth. Bu Maredudd farw yn 1035, gan adael Hywel i deyrnasu ar ei ben ei hun, ac ar ei ysgwyddau ef y cwympodd y baich trwm o amddiffyn y De yn erbyn y Vikingiaid a chipiwr y Gogledd, Gruffydd ap Llywelyn. Alltudiwyd ef
  • BLEGYWRYD (fl. c. 945), awdurdod ar hen gyfreithiau Cymru Tystia amryw o'r MSS. hynaf o'r cyfreithiau i bwysigrwydd Blegywryd yng ngwaith y cyngor y parodd Hywel Dda ei gynnull yn y Ty-gwyn-ar-Daf yn Nyfed, c. 945. Sonnir am ddewis 13 o ddoethion o blith y cynulliad mawr i drefnu a golygu'r cyfreithiau, a chan mai Blegywryd yw'r unig un ohonynt a grybwyllir wrth ei enw, tebyg mai ef oedd bennaf. Gelwir ef yn ' athro,' 'yr un ysgolhaig doethaf
  • IAGO ab IDWAL FOEL (fl. 942-79) Gyrrwyd ef o Wynedd gyda'i frawd, Ieuaf, gan Hywel Dda pan fu Idwal Foel farw, yn 942, eithr cawsant ddychwelyd pan fu Hywel farw yn 950. Dilynodd rhyfel cartrefol a gorchfygwyd Ieuaf yn 969. Carcharwyd Iago yn ei dro yn 979 gan Hywel, mab Ieuaf, a daeth Hywel yn frenin Gwynedd. Iago yw'r unig Gymro y gellir bod yn weddol sicr ei fod gyda'r isbenaethiaid eraill a blygodd lin i Edgar, yng Nghaer
  • JENKINS, DAVID ARWYN (1911 - 2012), bargyfreithiwr a hanesydd Cyfraith Hywel Dda 1976 cyn cynhyrchu The Laws of Hywel Dda ar gyfer cynulleidfa Saesneg yn 1986. Sefydlodd y gweithiau hyn sylfaen ysgolheigaidd ar gyfer astudiaeth, ond arweiniodd diddordebau Dafydd at dros hanner cant o gyfraniadau ar y cyfreithiau canoloesol. Dangosodd rhai ohonynt fod diddordeb Dafydd yn ymarferol yn hytrach na thestunol yn unig; roedd am adnabod y bobl a fuasai'n ymwneud â'r cyfreithiau a gwybod
  • MAREDUDD ab OWAIN ap HYWEL DDA (d. 999), brenin Deheubarth
  • MORGAN HEN ab OWEN (d. 975), brenin Morgannwg ŵyr Hywel ap Rhys, sylfaenydd llinach newydd yng ngorllewin Morgannwg tua diwedd y 9fed ganrif. Yr oedd Morgan, a ddilynodd ei dad Owain c. 930, yn agos ei gyswllt â pholisi cyfeillgarwch â'r frenhiniaeth Sacsonaidd, a ddilynwyd gan Hywel Dda, a pharhaodd ar delerau da â'r Saeson am ychydig flynyddoedd o leiaf wedi marw Hywel. Yn ei ddyddiau ef yr oedd Morgannwg yn cynnwys Gwent unwaith yn rhagor
  • EDWIN (d. 1073), arglwydd Tegeingl (h.y. cymydau Rhuddlan, Coleshill, a Prestatyn), a 'sylfaenydd' un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd.' Bu Tegeingl yn rhan o frenhiniaeth Seisnig Mercia am dros dair canrif, h.y. nes ailgoncweriwyd hi gan Ddafydd ab Owain Gwynedd yn y 12fed ganrif. Mewn rhai achau dywedir fod Edwin yn or-or-wyr i Hywel Dda ac mai Ethelfleda, merch Edwin, brenin Mercia, oedd ei fam. Priododd Iwerydd, chwaer Bleddyn ap
  • OWEN, ANEURIN (1792 - 1851), hanesydd ac ysgolhaig Cymreig a golygydd cyfreithiau Hywel Dda comin. Pan fu John Humffreys Parry farw (1825) rhoddwyd i Owen y gwaith o gwpláu yr hyn a gychwynasid gan hwnnw, sef paratoi argraffiad o gyfreithiau Hywel Dda a chasglu defnyddiau ar gyfer argraffiad o 'Brut y Tywysogion.' Cyhoeddwyd y 'cyfreithiau' yn 1841 - Ancient Laws and Institutes of Wales; Comprising the Laws … by Howel the Good and Anomalous Laws … with an English Translation (London, for the
  • IDWAL FOEL (d. 942), brenin Gwynedd mab Anarawd ap Rhodri Fawr. Dechreuodd deyrnasu yng Ngwynedd yn 916 ac wedi peth gwrthsefyll cydnabu benarglwyddiaeth teyrnas Wessex. Collodd ei fywyd mewn cyrch aflwyddiannus yn erbyn y Saeson yn 942, alltudiwyd ei feibion, a daeth yr awdurdod i ddwylaw ei gefnder, Hywel Dda. Er i ddau o'i feibion, sef Iago ac Ieuaf, gael dychwelyd yng nghwrs amser, trwy fab iau, Meurig, y trosglwyddwyd ei waed
  • OWAIN ab EDWIN (d. 1105) Nhegeingl, uchelwr Dywedid mai meibion oedd ef a'i frawd, Uchtryd, i Edwin ap Gronw (gor-or-ŵyr Hywel Dda) ac Iwerydd, hanner-chwaer Bleddyn ap Cynfyn. Serch i Owain gynorthwyo yr iarll Hugh o Gaer yng nghyrch annhymig hwnnw yn erbyn Gwynedd yn 1098, priododd Angharad, ei ferch, â Gruffydd ap Cynan. Gronw ei fab, oedd tad Christina, ail wraig Owain Gwynedd. Ni ddylid cymysgu rhyngddo â chefnder ei dad, hwnnw hefyd
  • RHYS ap TEWDWR (d. 1093) Wyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda. Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin. Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd, eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan, fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn. Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith